Ffordd Rufeinig

Ffordd yn Pompeii

Ffordd Rufeinig yw'r term a ddefnyddir am ffordd a adeiladwyd yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain neu Ymerodraeth Rhufain. Roedd rhwydwaith o ffyrdd yn cysylltu dinas Rhufain a gwahanol rannau o'r ymerodraeth, yn galluogi byddinoedd Rhufeinig i symud yn gyflym o le o le. Roeddynt hefyd o fudd mawr i fasnachwyr ac eraill, er mai milwrol oedd eu prif bwrpas. Hyd ar y 18g roedd llawer ohonynt yn parhau i gael eu defnyddio.

Yn ôl Ulpianus, gellid dosbarthu ffyrdd Rhufeinig yn dri dosbarth:

  1. Viae publicae, consulares, praetoriae neu militares
  2. Viae privatae, rusticae, glareae neu agrariae
  3. Viae vicinales

Heblaw'r dosbarthiad yma, roedd Ulpianus hefyd yn gwahanu'r ffyrdd yn dri dosbarth o ran y dull o'u hadeiladu:

  1. Via terrena: Ffordd bridd.
  2. Via glareata: Ffordd bridd. gyda gwyneb o gerrig mân.
  3. Via munita: Ffordd wedi eu hadeiladu gyda sylfaeni a gwyneb o flociau cerrig.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search